Blog 1 Melangell Ebrill 2021
Pan glywais yn gyntaf am arlunio gyda cwyr gwenyn, o gwmpas deg ar hugain o flynyddoedd yn ol, fe meddyliais ‘annodd credu, tybed? fel arlunydd sut y gallwch chi ARLUNIO gan ddefnyddio cwyr?’
Wrth gwrs cyn bo hir fe ddeallais bod cwyr gwenyn yn mudiad hyfryd o’r byd naturiol, a rhaid cynnwys pigment. Fe mentrais, a dyna fe, roeddwn yn ‘hooked’! Fe syrthiais mewn cariad gyda cwyr gwenyn fel mudiad arlunio. Fe gadais yr olew a’r dyfrliw mewn cwpwrdd. Maent yna heddiw.
Offer cyfoes yw'r offer a ddefnyddiaf. Roedd yr hen arlunwyr yn arfer toddi'r cwyr mewn dysglau ar y tan, ond y mae'r grefft heddiw yn dal i fod yr un peth yn ei hanfod ag yr oedd ganrifoedd yn ol.
Y mae cwyr gwenyn yn rhan hanfodol o'r byd naturiol ac wrth gymysgu'i liwiau hufenog gyda gwahanol liwiau'r spectrwm, gall yr arlunydd greu effeithiau cywrain iawn.
Ambell waith pan rwy’n gweithio ar ryw comisiwn enfawr gyda llawer o fanynlder, baswn yn falch dros ben gael brws finiog, ond rhaid i mi ddefnyddio trydan i doddi y gwyr gwenyn. Felly rhaid i mi gadw wrth defnyddio yr offerynnau yr wyf yn galw fy ‘mrwsys’:
Haearn smwddio (heb tyllau);
Haearn solder, gyda dau ben (un fel nedwydd ac un fel brws bychain, mwy fel gwifrau ‘Brillo’ ;
Gwn poeth i gael gwared a phaent is symyd y cwyr gwenyn o gwmpas os bydd eisiau (creu cymylau);
Papur sydd ddim yn llyncu y lliwiau, felly gwneud yn bosibl i symyd lliwiau o gwmpas, a chyrraedd y canlyniad rydych yn ei chwilio.
Rwy’n hoffi disgrifio arlunio gyda cwyr gwenyn fel chwarae. Mae yn codi eich calon a’ch ysbryd. Mae weld pobl yn ceisio arlunio gyda cwyr gwenyn mewn gwaithdy yn anrhydedd a phleser.
‘Am y tro cyntaf rwy wedi gwneud llun!’ meddant. Ry’n teimlo ambell waith bod cael bobl i ddeall bod arlunio gyda cwyr gwenyn yn brofiad arbennig o dda ac yn codi’ch ysbryd yn ymdrech hyfryd.
Hwyl am y tro....
Melangell
Comments